Mae Alun Griffiths (Contractors) Ltd yn falch o adrodd bod perfformiad ariannol y flwyddyn ariannol 2025 wedi gwella’n sylweddol; mae hyn yn nodi trobwynt pendant i’r busnes yn dilyn ei ddychweliad i berchnogaeth annibynnol.
Cafodd y cwmni ei gaffael yn ôl yn ffurfiol ar 8 Mai 2025 gan Grosmont Ventures, dan arweiniad ei sylfaenydd gwreiddiol, Mr Alun Griffiths, gyda chefnogaeth nifer o gydweithwyr hŷn sydd wedi bod gyda’r cwmni ers amser maith ac sydd wedi chwarae rhan bwysig yn ei ddatblygiad dros flynyddoedd lawer. Mae eu profiad a’r parhad a ddaethant yn eu sgil wedi helpu i adfer hunaniaeth hirsefydlog y sefydliad fel contractwr peirianneg sifil balch o Gymru, sydd ag arweinyddiaeth gref, cyfeiriad strategol clir a ffocws masnachol o’r newydd.
Ers dychwelyd i berchnogaeth annibynnol, mae’r busnes wedi canolbwyntio ar gryfhau gweithrediadau dyddiol, gwneud penderfyniadau masnachol gwybodus, ac adfywio’r cwmni drwy feithrin diwylliant cadarnhaol sy’n rhoi pobl yn gyntaf. Mae hyn wedi cynnwys ail-ganolbwyntio ar farchnadoedd craidd, gwella’r broses o ddewis prosiectau, buddsoddi mewn pobl a systemau, ac adfer y gwerthoedd sydd wedi diffinio enw Griffiths ers dros hanner canrif.
Mae’r camau hyn eisoes wedi arwain at ganlyniadau y gellir eu mesur. Mae cyfrifon 2025 yn adlewyrchu busnes sy’n sefydlog yn ariannol, yn wydn o ran gweithrediadau, ac mewn sefyllfa dda ar gyfer twf cynaliadwy yn y tymor hir. Mae’r cwmni’n dechrau’r flwyddyn ariannol newydd gyda llyfr archebion cryf, ymylon elw gwell, a strategaeth glir ar gyfer ehangu ymhellach ledled Cymru a’r DU yn ehangach.
Wrth sôn am y canlyniadau, dywedodd Tim James, y Cyfarwyddwr Rheoli:
“Bringing the company back under independent ownership – and doing so with the support of former colleagues and long‑serving members of the senior team – has allowed us to return to what we do best: delivering high‑quality infrastructure, supporting our communities and investing in our people. This year’s financial performance is only the beginning of a new chapter for our business.”