Home >
Amdanom ni
Gwybodaeth am Griffiths
Rydym yn gontractwr peirianneg sifil cynaliadwy sy’n helpu i gysylltu cymunedau trwy ffyrdd, rheilffyrdd, dŵr a chyfleustodau.
Croeso i Griffiths. Rydym yn gontractwr peirianneg sifil cynaliadwy sy’n helpu i gysylltu cymunedau trwy ffyrdd, rheilffyrdd, dŵr a chyfleustodau. Rydym yn ymfalchïo yn cyflawni prosiectau o’r ansawdd uchaf mewn modd iach, diogel a chynaliadwy i wella bywydau beunyddiol pobl. Fel cwmni rhanbarthol, mae gennym ddiddordeb cynhenid yn lles cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yr ardaloedd lle rydym yn byw ac yn gweithio. Rydym yn buddsoddi yn y cymunedau lleol hyn trwy bob prosiect a wnawn.
Rydym yn cyflogi gweithlu hyfforddedig, ymroddedig a chymwys iawn o dros 1,000 yn uniongyrchol. Mae ein sylfaen cwsmeriaid gref yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Network Rail, Priffyrdd Cenedlaethol, TrC, awdurdodau lleol, Cwmnïau Cyfleustodau a sefydliadau sector preifat dethol.
Rhagoriaeth ym mhob prosiect rydym yn ei ymgymryd.
Buddsoddi mewn pobl a lleoedd ar gyfer dyfodol gwell.
EIN GWELEDIGAETH
I fod yn fusnes cynaliadwy sy’n ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol
Adeiladu gwell datrysiadau seilwaith ar gyfer ein cwsmeriaid a’n cymunedau.
Rydym yn gweithio’n rhagweithiol ac yn adeiladol gyda phob un o’n cwsmeriaid, partneriaid a chyflenwyr tuag at ganlyniadau buddiol i’r ddwy ochr. Mae ein pobl yn gwerthfawrogi ac yn gofalu am ei gilydd ac yn gweithio’n effeithiol gyda’i gilydd o fewn ac ar draws timau.
Rydym yn meddwl ymlaen, yn nodi cyfleoedd ac yn canolbwyntio ar ddod o hyd i atebion. Rydym bob amser yn mynd yr ‘ail filltir’ i gyflawni canlyniadau a gwella’n barhaus.
Rydym yn broffesiynol ac yn gyfrifol ac rydym yn ymddwyn gyda gonestrwydd a didwylledd tuag at bawb yr ydym yn gweithio gyda nhw.
Rydym yn falch o’n pobl, ein sefydliad a’r hyn y gallwn ei gyflawni. Byddwn yn sicrhau ein bod yn diogelu’r gwaddol hwn i’r genhedlaeth nesaf.
Ein stori
Gyda hanes sy’n ymestyn dros 50 mlynedd, mae Griffiths yn un o’r prif gontractwyr peirianneg sifil a rheilffyrdd sy’n gweithio ledled Cymru, Canolbarth Lloegr a De-orllewin Lloegr.
GWOBRAU
Ein Tîm
Cyfarwyddwr Rhanbarthol - De Cymru
Rheolwr Gyfarwyddwr
Dirprwy Rheolwr Gyfarwyddwr a Cyfarwyddwr Rhanbarthol – Lloegr
Cyfarwyddwr Peiriannau a Thrafnidiaeth
Cyfarwyddwr Masnachol
Cyfarwyddwr – Datblygu a Phrosiectau Arbennig
Cyfarwyddwr Rhanbarthol - Gogledd a Chanolbarth Cymru
Gadewch i ni ei adeiladu gyda'n gilydd.
We use cookies to personalize content, provide social media features, and analyze our traffic. We also share information about your use of our site with our analytics partners. You can change your preferences at any time. For more information, please see our Privacy Policy and Cookie Policy. Privacy Policy Cookie Policy