Yn Griffiths, rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau lleol ar bob lefel o’n Contract Gwasanaeth Tymor ar gyfer Cynnal a Chadw Priffyrdd a Goleuadau Stryd yn Ynys Môn. Mae gweithio gyda chontractwyr lleol yn cadw buddsoddiad o fewn y gymuned, yn cryfhau cyflogaeth leol, ac yn sicrhau gwasanaeth cyflymach sy’n ymateb yn well i anghenion.
Mae ein his-gontractwr diweddaraf, Hefin Thomas Agri Contractors Limited, yn arbenigwr lleol sy’n darparu gwasanaethau glanhau draeniau ffordd, chwistrellu dŵr pwysedd uchel, ac arolygu draeniau drwy ddefnyddio teledu cylch cyfyng (CCTV) ar draws y rhwydwaith. Wedi’u lleoli ar Ystad Ddiwydiannol Mona yn Ngwalchmai, mae eu tîm o weithredwyr hyfforddedig yn cynnig gwybodaeth leol werthfawr ac ymateb cyflym i anghenion cynnal a chadw. Gyda 30 mlynedd o brofiad yn gwasanaethu cwsmeriaid domestig a masnachol, maent yn darparu gwasanaeth galw allan brys effeithlon sydd ar gael 24 awr y dydd.
Simon Thomas, Cyfarwyddwr, Hefin Thomas Agri Contractors Ltd,
“Rydym yn ddiolchgar am y cyfle i weithio gyda Griffiths a Chyngor Ynys Môn i gynnal seilwaith yr Ynys. Mae’n bwysig i ni, fel cwmni, gyflogi pobl leol sy’n falch o weithio ochr yn ochr â busnesau lleol – ac sy’n gwerthfawrogi hynny – er mwyn diogelu ein cymuned a’n Ynys.”
Drwy weithio gyda chwmnïau fel Hefin Thomas Agri Contractors Ltd, rydym yn lleihau amser teithio, yn torri allyriadau, ac yn cadw cyllid o fewn yr economi leol. Mae eu staff yn byw ac yn gweithio yn yr un ardaloedd ag y maent yn eu cynnal a’u cadw; mae hyn yn rhoi ymdeimlad cryf o berchnogaeth a balchder iddynt o ran cadw ffyrdd lleol yn ddiogel ac yn hygyrch.
Dros y 12 mis diwethaf, mae Griffiths wedi cryfhau ein hymrwymiad i’r economi leol drwy wario dros £1.25 miliwn gyda 21 o fusnesau sydd wedi’u lleoli yn Ynys Môn. Mae’r ymgysylltiad parhaus hwn yn cefnogi cyflenwyr ar draws amrywiaeth o sectorau, o adeiladu a chynnal a chadw i wasanaethau proffesiynol.
Cyfarwyddwr Rhanbarthol Griffiths – Gogledd a Chanolbarth Cymru, Owain Thomas
“Drwy ddewis partneriaid lleol, rydym yn helpu i gynnal swyddi, meithrin cysylltiadau cymunedol cryfach, a sicrhau bod buddsoddiad yn aros o fewn y rhanbarth. Ein ffocws o hyd yw cydweithio hirdymor sy’n creu gwerth i’r ddwy ochr ac yn hyrwyddo twf lleol.”
Ychwanegodd Huw Percy, Pennaeth Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo Cyngor Sir Ynys Môn:
“Un o brif nodau strategol y Cyngor Sir yw hyrwyddo cyfleoedd i ddatblygu economi’r ynys. Rydym wrth ein bodd yn gweld Griffiths – ein contractwr gwasanaeth tymor ar gyfer cynnal a chadw priffyrdd a goleuadau stryd – yn cefnogi’r nod hanfodol hwn. Mae eu hymrwymiad i weithio gyda busnesau ar Ynys Môn, fel Hefin Thomas Agri Contractors Ltd, yn creu mwy o gyfleoedd cyflogaeth a chadwyn gyflenwi yn lleol.”
Rydym yn parhau i ddatblygu ein partneriaethau â chyflenwyr lleol medrus sy’n rhannu ein safonau o ran diogelwch, ansawdd a gwasanaeth. Mae cefnogi talent leol yn ganolog i’r ffordd y mae Griffiths yn darparu gwerth hirdymor i’n cymunedau a’n cleientiaid.



