Dirprwy Rheolwr Gyfarwyddwr a Cyfarwyddwr Rhanbarthol – Lloegr
Simon ydy ein Cyfarwyddwr Cyn Adeiladu ac mae’n gyfrifol am ein gweithgareddau datblygu busnes, tendrau, marchnata, a chyfathrebu. Simon sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am ddatblygu llif cynaliadwy o waith i gefnogi cyfeiriad strategol y busnes.
Ymunodd Simon â Griffiths yn 2010 ac mae wedi cyflawni nifer o swyddi gwahanol ar draws y busnes, gan roi dealltwriaeth eang iddo ynglŷn â’r ffordd y mae Griffiths yn gweithio ac, yn bwysig iawn, sut gallwn ni ychwanegu gwerth ar gyfer ein cwsmeriaid. Yn ei rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau, bu Simon yn datblygu a gweithredu ein strategaeth twf er mwyn cyflawni cynlluniau ehangach y busnes ar gyfer tyfu yn Ne-Orllewin Lloegr.
SGILIAU, PROFIAD A CHYFRANIAD
- Gwybodaeth helaeth am gynaliadwyedd, yn deillio o’i ddoethuriaeth mewn Deunyddiau Adeiladu Cynaliadwy gydag arbenigedd mewn Concrit sy’n Atgyweirio’i Hun.
- Cymrawd yn Sefydliad y Peirianwyr Sifil gyda phrofiad ar draws pob sector ym maes peirianneg sifil gan gynnwys Dylunio, Adeiladu ac Ymchwil a Datblygu.
- Rhwydweithiwr a chyfathrebwr hynod effeithiol gydag agwedd entrepreneuraidd.
- Profiad o ddatblygu strategaethau sy’n dwyn ffrwyth gyda nodau a gweledigaethau eglur er mwyn darparu’r gwerth gorau i’n cwsmeriaid.
YMUNODD Â NI AR: Medi , 2026