CYFARFOD Â'N HAEEL O'R TIM

ENW

Dr Simon Dunn

Dirprwy Rheolwr Gyfarwyddwr a Cyfarwyddwr Rhanbarthol – Lloegr

Simon ydy ein Cyfarwyddwr Cyn Adeiladu ac mae’n gyfrifol am ein gweithgareddau datblygu busnes, tendrau, marchnata, a chyfathrebu. Simon sydd â’r cyfrifoldeb cyffredinol am ddatblygu llif cynaliadwy o waith i gefnogi cyfeiriad strategol y busnes. Ymunodd Simon â Griffiths yn 2010 ac mae wedi cyflawni nifer o swyddi gwahanol ar draws y busnes, gan roi dealltwriaeth eang iddo ynglŷn â’r ffordd y mae Griffiths yn gweithio ac, yn bwysig iawn, sut gallwn ni ychwanegu gwerth ar gyfer ein cwsmeriaid. Yn ei rôl flaenorol fel Cyfarwyddwr Gweithrediadau, bu Simon yn datblygu a gweithredu ein strategaeth twf er mwyn cyflawni cynlluniau ehangach y busnes ar gyfer tyfu yn Ne-Orllewin Lloegr.

SGILIAU, PROFIAD A CHYFRANIAD

  • Gwybodaeth helaeth am gynaliadwyedd, yn deillio o’i ddoethuriaeth mewn Deunyddiau Adeiladu Cynaliadwy gydag arbenigedd mewn Concrit sy’n Atgyweirio’i Hun.
  • Cymrawd yn Sefydliad y Peirianwyr Sifil gyda phrofiad ar draws pob sector ym maes peirianneg sifil gan gynnwys Dylunio, Adeiladu ac Ymchwil a Datblygu.
  • Rhwydweithiwr a chyfathrebwr hynod effeithiol gydag agwedd entrepreneuraidd.
  • Profiad o ddatblygu strategaethau sy’n dwyn ffrwyth gyda nodau a gweledigaethau eglur er mwyn darparu’r gwerth gorau i’n cwsmeriaid.

YMUNODD Â NI AR: Medi , 2026

Eisiau ymuno â'n tîm?

Ewch i'n tudalen gyrfaoedd isod a dewch yn rhan o'n taith gyffrous.

Rydym yn adeiladu'n well

Mwy diogel CRYFACH DOETHACH

Ar gyfer dyfodol cynaliadwy

This Website Uses Cookies

We use cookies to personalize content, provide social media features, and analyze our traffic. We also share information about your use of our site with our analytics partners. You can change your preferences at any time. For more information, please see our Privacy Policy and Cookie Policy. Privacy Policy Cookie Policy