Ar yr olwg gyntaf, roedd hwn fel petai’n gynllun peirianneg digon syml. Tri llyn wedi’u gwahanu gan ddwy argae ac adeiledd allfa yn y terfyn gwaelod, angen eu hatgyweirio a’u huwchraddio. Y cyfan mewn gardd o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd ar agor i’r cyhoedd.
Roedd cimychiaid afon arwyddol Americanaidd wedi erydu’r argae ganol a’r arglawdd ar ochr Ddwyreiniol y llyn isaf i’r fath raddau bod yr argae’n anniogel, a’r arglawdd wedi’i erydu gan adael wyneb syth mewn mannau. Cwmpas y gwaith oedd ailadeiladu’r argae ganol a leinio’r llyn isaf gyda llen rwystrol blastig er mwyn atal difrod gan gimychiaid afon ac uwchraddio adeiledd yr allfa isaf er mwyn gallu ymdopi â digwyddiad tywydd 1:10,000 o flynyddoedd.
HERIAU
Mae’r ardd o bwysigrwydd Cenedlaethol, yn Rhestredig Gradd I ac yn dyddio o ddechrau i ganol y 1700au. Mae’r safle cyfan mewn dyffryn gyda llethrau serth yn arwain i lawr at system y llynnoedd. Roedd y fynedfa i’r safle isaf, ble roedd y gwaith yn cael ei gynnal, mor gul fel nad oedd modd mynd â dim byd mwy na fan transit trwodd. Unwaith yr oedd wedi’i ddraenio, gwelwyd bod trwch 2 fetr o silt ar waelod y llyn isaf yn hytrach na’r 0.5m roedden ni’n ei ddisgwyl, ac fe newidiodd hynny’r dull roedden ni wedi’i gynllunio yn llwyr.
Mae tri llyn yn y gerddi, wedi’u creu yn eu tro gan y bont Baladaidd, yr argae ganol a’r argae isaf.
Roedd yr argae isaf mewn cyflwr gwael ac roedd methiannau ynddi yn sgil gwagleoedd o fewn yr adeiledd, a oedd wedi’u hachosi’n rhannol gan rywogaethau anfrodorol o gimychiaid afon yn tyllu i mewn i’r ochrau. Cafodd y llyn canol ei wagio er mwyn lleihau’r llwyth ar yr argae. Canfuwyd nad oedd digon o gapasiti gorlifo gan yr argae isaf ac y byddai dŵr yn llifo drosti yn y digwyddiad llifogydd a fodelwyd, gan beri risg y gallai ddymchwel. Roedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnal gwaith i uwchraddio’r argae ganol a’r isaf ac i adfer y dirwedd o’u hamgylch.
Y gwaith ar yr Argae Ganol oedd tynnu allfa a chwymp dŵr, ailadeiladu’r argae gyda chraidd newydd o glai a llenwad dethol wedi’i gywasgu gyda llethrau 1 mewn 3 ar yr ochr isaf. Llen rwystrol newydd islaw craidd yr argae yn y fraich orllewinol; Codi lefel yr arglawdd 0.2m-0.3m yn uwch i ddod â’r cyfan i lefel gyson. Atgyweirio’r wal gerrig ar yr ochr uchaf ac adeiladu o’r newydd lle nad oedd wal; adeiladu cored ‘blwch llythyrau’ a chwymp dŵr newydd gyda chladin o garreg, adeiladu pibell allfa newydd ac allfa ar ffurf ceuffos fwaog gyda chladin o garreg; manylion llwybr ac arglawdd a llenni rhwystrol plastig gyda chladin pren ar hyd troed yr argae ar yr ochr isaf.
Roedd y gwaith ar yr Argae Isaf yn golygu cael gwared ar yr adeileddau oedd yno; adeiladu adeiledd newydd ar gyfer yr allfa gyda chladin cerrig i gynyddu’r capasiti gorlifo, codi lefel crib yr arglawdd 0.6-0.7m yn uwch, cwblhau gorffeniad llwybrau a’r argloddiau, ac ailosod basn llonyddu a’r gweithiau cysylltiedig.
Ailadeiladu’r lan ddwyreiniol gyda llethrau 1 mewn 3 ar yr ochr isaf a llenni rhwystrol plastig gyda chladin pren ar hyd troed yr ochr isaf.
Y gweithiau cysylltiedig oedd carthu’r llyn isaf, adeiladu silffoedd silt yn y llyn isaf ar gyfer plannu ger yr ymylon, gwaith tynnu coed a llystyfiant oedd yn gysylltiedig â hyn ac adeiladu ffordd fynediad dros dro. Roedd y gwaith tirlunio yn cynnwys gwaith plannu a hau gwair ynghyd â gwneud cofnodion archaeolegol a datgymalu nodweddion pwysig.
Mae’n werth nodi bod y gwaith hwn wedi’i gyflawni pan oedd y parc ar agor i’r cyhoedd a bod rhaid i ni gynnal croesfannau ar gyfer ymwelwyr yr ardd drwy gydol yr holl waith. Yn ogystal, oherwydd cyfyngiadau’r safle, roedd rhaid i ni rannu mynediad mewn mannau â’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol er mwyn caniatáu iddyn nhw barhau â’u tasgau beunyddiol yn cynnal y parc.
DATRYSIADAU
Roedd rhaid cludo’r holl ddeunyddiau swmpus i’r fynedfa ym mhen uchaf y dyffryn a’u cludo wedyn i lawr ffordd gludo 600m a adeiladwyd gennym i lawr y dyffryn, gan osgoi nodweddion archaeolegol yn y canol. Roedd y ffordd hon yn rhy serth i ddympers confensiynol ar olwynion ac oherwydd ein bod yn croesi gwreiddiau coed sensitif, roeddem wedi’n cyfyngu i ddympers 3-tunnell â thraciau a fyddai’n cludo 1 metr ciwbig o ddeunyddiau ar y tro. Roedd rhaid pwmpio’r concrit wedi’i gyfnerthu â ffibrau ar gyfer adeiledd yr allfa isaf o’r brif ffordd 136m i ffwrdd, i lawr llethr 1:2.
Llwyddwyd i oresgyn yr holl heriau hyn, ynghyd â Covid-19 a phedwar o ddigwyddiadau tywydd 10-mlynedd yn ystod chwe mis cyntaf y prosiect. Fe wnaethom gludo cyfanswm o:
- 3060t o Gerrig (amrywiol)
- 1320t o Bridd (uwch ac is)
- 1420t o Glai (craidd yr argaeau)
- 283m3 o Goncrit
Gweithiodd y tîm yn galed i adfer prydferthwch Prior Park Landscape Gardens.