Mae peirianneg daear yn elfen allweddol mewn prosiectau seilwaith ac adeiladu, a dyma’n aml sy’n gyfrifol am y rhyngwyneb rhwng y ddaear ac adeileddau fel muriau cynnal, pontydd, twneli, ac adeiladau.
Mae gan dîm geodechnegol Griffiths ystod eang o sgiliau a phrofiadau sy’n cynnwys gosod gwaith dur, gosod estyll a gwaith brics. Mae hyn yn ein galluogi i ehangu ein gwasanaeth i gynnwys darpariaeth lawn ein hunain, nid yn unig o elfennau peirianneg daear prosiectau, ond yr adeileddau hefyd.
Concrit cyfnerthedig – Gosod gwaith dur, defnyddio systemau estyll pren a rhai wedi’u teilwra ar gyfer trawstiau, muriau, slabiau a sylfeini
Concrit Màs – Slabiau, rafftiau, gorchuddion, cicwyr a mowldiau llithro
Concrit wedi’i gastio’n barod – Gosod elfennau concrit sydd wedi’u castio’n barod, gan gynnwys trawstiau pontydd, slabiau llawr sylfaen ac unedau muriau cynnal
Adeiladu â modiwlau dur – Gosod rhannau o ddur ffabrigedig ar gyfer pontydd, llwyfannau, sylfeini, muriau brenhinbyst
Sylfeini pontydd ac adeiladau – Adeiladu ar ffurf stribedi, padiau, rafftiau a chapiau pileri
Oes gennych chi brosiect mewn golwg?
Gadewch i ni ei adeiladu gyda'n gilydd.
O'r camau cynllunio a dylunio hyd at y gwaith gweithredu, rydym yn darparu datrysiadau seilwaith cyflawn sydd wedi'u hadeiladu ar gyfer perfformiad, ansawdd a gwerth parhaol.
We use cookies to personalize content, provide social media features, and analyze our traffic. We also share information about your use of our site with our analytics partners. You can change your preferences at any time. For more information, please see our Privacy Policy and Cookie Policy. Privacy PolicyCookie Policy