Mae gan Griffiths dros 40 mlynedd o brofiad o gael mynediad â rhaffau a gweithio ar uchder, felly ni yw’r partneriaid delfrydol ar gyfer lleoliadau anodd eu cyrraedd na fyddai modd mynd atynt trwy ddulliau confensiynol. Mae Griffiths yn aelod achrededig o Gymdeithas Fasnachol y Diwydiant Mynediad â Rhaffau (IRATA).
Mae holl dechnegwyr mynediad â rhaff Griffiths yn weithredwyr aml-sgil sy’n gallu cwblhau gweithiau amrywiol.
Archwiliadau Concrit – ar adeileddau concrit fel pontydd
Atgyweirio Concrit / Bricwaith – atgyweiriadau i rannau o bontydd, traphontydd, muriau ac ati.
Archwilio ac Atgyweirio Gwaith Maen a Chlymau Wal – adeileddol
Archwilio Cladin a Ffasadau – adeileddol
Archwilio Seilos (y tu mewn)– gweithfeydd cemegol
Archwilio Systemau Gwasgedd (y tu mewn) – fel arfer o fewn gweithfeydd nwy
Archwilio Simneiau – cyrn dur a choncrit
Archwilio Paent ac Araenau Galfanedig – fel arfer ar bontydd, tyrbinau gwynt a mastiau.
Archwiliadau LOLER – i adeileddau codi anodd eu cyrraedd
Gosod Cladin– ar adeiladau.
Archwilio ac AtgyweirioGwaith Dur – adeileddau
Archwilio ac Ailosod Gwydr – ar adeiladau uchel
Arolygon Cyflwr Hanesyddol – ar gyfer adeiladau adeileddau eraill
Archwiliadau Daearegol– ar glogwyni a llethrau
Archwilio Llafnau – ar dyrbinau gwynt
Geodech – cefnogi pob agwedd ar y busnes geodechnegol, h.y. gwaredu llystyfiant, rhyddhau creigiau a malurion rhydd, drilio
Oes gennych chi brosiect mewn golwg?
Gadewch i ni ei adeiladu gyda'n gilydd.
O'r camau cynllunio a dylunio hyd at y gwaith gweithredu, rydym yn darparu datrysiadau seilwaith cyflawn sydd wedi'u hadeiladu ar gyfer perfformiad, ansawdd a gwerth parhaol.
We use cookies to personalize content, provide social media features, and analyze our traffic. We also share information about your use of our site with our analytics partners. You can change your preferences at any time. For more information, please see our Privacy Policy and Cookie Policy. Privacy PolicyCookie Policy