O lefel y ddaear i brosiectau dros ddŵr ac ar uchder, mae Griffiths wedi gosod bolltiau ar safleoedd rheilffordd, priffyrdd, arfordirol, preswyl a masnachol.
Mae Griffiths yn defnyddio systemau hoelio pridd (wedi’u cyfuno’n aml â gorffeniad o rwyllwaith dur neu goncrit wedi’i chwistrellu) i sefydlogi llethrau neu agor toriadau ar gyfer seilwaith hen a newydd.
Gosod mecanyddol – Bolltiau creigiau yn cael eu gosod drwy fecanwaith fydd naill ai wedi’i gysylltu â pheiriant mawr neu ar ffrâm ddur ag olwynion / sled.
Gallu i ymestyn ymhell – gellir gosod driliau ar beiriannau cloddio sy’n estyn ymhell, llwythwyr telesgopig a chraeniau.. Mae AG wedi cyflawni prosiect ble roedd angen ymestyn 38m.
Cyfarpar Drilio – Driliau morthwyl hydrolig Ripamonti gyda strôc dynnu rhwng 1 a 4m o hyd.
Diamedr a hyd – fel arfer o 76mm i 220mm o ddiamedr a hyd at 20m o hyd. Angorau mecanyddol gyda phennau pig hwyaden.
Amrywiaeth o ddeunyddiau – Bariau craidd gwag fel arfer, ond gall hynny amrywio. Angorau mecanyddol â gosodiadau o fariau solet neu geblau. Rhwyllwaith o siâp hecsagon neu ddiemwnt, rhwyllwaith o ddur cyfnerthedig a choncrid wedi’i chwistrellu.
Growtio – Techneg drilio a growtio gyda’i gilydd.
Profi – Gallu o fewn y cwmni i gynnal profion tynnu amrywiol a chynhyrchu adroddiadau ar y profion gyda dadansoddiadau.
Oes gennych chi brosiect mewn golwg?
Gadewch i ni ei adeiladu gyda'n gilydd.
O'r camau cynllunio a dylunio hyd at y gwaith gweithredu, rydym yn darparu datrysiadau seilwaith cyflawn sydd wedi'u hadeiladu ar gyfer perfformiad, ansawdd a gwerth parhaol.
We use cookies to personalize content, provide social media features, and analyze our traffic. We also share information about your use of our site with our analytics partners. You can change your preferences at any time. For more information, please see our Privacy Policy and Cookie Policy. Privacy PolicyCookie Policy