
Mae Griffiths wedi ennill gwobr Aur yng Ngwobrau Partner Gwerthfawr Careers Wales ar ôl dangos ei ymrwymiad i helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol.
Mynychodd dros 40 o gwmnïau o bob rhan o Gymru y seremoni wobrwyo, a gynhaliwyd gan y cyn-gyflwynydd newyddion ar y BBC, Sara Edwards.
Mae Gwobr Partner Gwerthfawr Careers Wales yn cydnabod y cyfraniad pwysig a wneir gan fusnesau sy’n camu i’r adwy yn gyson i gefnogi gweithlu’r dyfodol drwy gymryd rhan mewn gweithgareddau a hwylusir gan Careers Wales mewn ysgolion ledled Cymru.
Enillodd 22 o gwmnïau wobrau aur, enillodd 18 o gwmnïau wobrau arian ac aeth 13 o gwmnïau â gwobr efydd adref.
Nikki Lawrence, Careers Wales Chief Executive, meddai:
Dyma’r tro cyntaf i ni gynnal digwyddiad ar gyfer ein Partneriaid Gwerthfawr, ac mae’r ymateb wedi bod yn wych. Mae dathlu busnesau sydd wedi gwneud mwy na’r disgwyl i helpu i ledaenu ein neges ac i roi llwyfan o gyfleoedd ac arweiniad i bobl ifanc yn rhan hanfodol o’n gwaith. Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo hon i ddangos ein diolchgarwch i’n Partneriaid Gwerthfawr ac i gydnabod ein bod yn gwerthfawrogi eu cefnogaeth bob dydd – dyma ein ffordd ni o ddiolch iddynt. Rydym yn falch bod pawb wedi mwynhau’r digwyddiad ac yn gobeithio y bydd yr holl gwmnïau’n parhau â’u gwaith hanfodol gyda myfyrwyr.
Huw Llywelyn, Griffiths Director meddai:
Fel cwmni, rydym yn gweithio’n galed i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yn y diwydiant adeiladu. Rydym yn cynyddu nifer y prentisiaid rydym yn eu recriwtio bob blwyddyn. Mae’r wobr hon yn cydnabod ein gwaith gyda Careers Wales i sicrhau bod digon o bobl ifanc yn gadael yr ysgol gyda diddordeb mewn adeiladu a pheirianneg sifil, a dealltwriaeth ohonynt.
Am ragor o wybodaeth ar sut i ddod yn rhan o raglen Education Business Exchange Careers Wales, ymweld www.careerswales.com