NEWYDDION DIWEDDARAF

Menter ar y cyd Griffiths Farrans yn cyrraedd y pwynt uchaf mewn prosiect trafnidiaeth gyhoeddus trawsnewidiol ym maes awyr Bryste

CATEGORI

GWOBRAU AC ENWEBIADAU

AMSFER DARLLEN

6 minutes

RHANNU

Mae Griffiths Farrans JV wedi cyrraedd carreg filltir cwblhau’r strwythur allanol ar brosiect trafnidiaeth gyhoeddus trawsnewidiol ym Maes Awyr Bryste.

Mae’r garreg filltir o gwblhau’r strwythur uchaf yn dod ar adeg pan mae lefelau un i dri wedi’u cwblhau, a lefel pedwar yn agos at gael ei chwblhau. Mae gwaith gosod systemau mecanyddol a thrydanol ar y gweill ar lefelau sero i ddau, ac mae systemau arbenigol i atal cerbydau hefyd yn cael eu gosod ar lefelau un a dau.

Mae’r ganolfan cysylltu trafnidiaeth gyhoeddus a’r maes parcio aml-lawr yn rhan o brosiect cyfalaf mwyaf Maes Awyr Bryste erioed. Bydd y buddsoddiad o £60 miliwn yn gwella gwasanaethau a hygyrchedd i gwsmeriaid sy’n cyrraedd neu’n gadael Maes Awyr Bryste.

Bydd y prosiect, a fydd yn cynnwys rhwydwaith ffyrdd mewnol gwell, yn darparu mynediad i goetsys, bysiau a mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus ar lefel uchaf y maes parcio aml-lawr. Bydd hyn yn mwy na dyblu nifer y lleoedd parcio ar gyfer bysiau a choetsys i 16, gan alluogi’r Maes Awyr i fod yn un o’r canolfannau trosglwyddo bysiau a choetsys mwyaf yn y rhanbarth.

Bydd y maes parcio aml-lawr yn cynnig gwelliannau i gwsmeriaid, gan gynnwys dros 2,000 o leoedd parcio; technoleg o’r radd flaenaf; lleoedd parcio ar gyfer deiliaid Bathodynnau Glas; ystafelloedd aros a chyfleusterau gorffwys. Bydd yn ffinio â’r maes parcio aml-lawr presennol. Bydd lefel uchaf y maes parcio hefyd yn cynnig ardal bwrpasol ar gyfer gollwng a chasglu teulu, ffrindiau neu dacsis, yn ogystal â phwynt mynediad newydd i bob cwsmer, gyda mynediad hawdd i’r derfynell trwy bont gerddwyr wydr ar yr un lefel.

Dywedodd Andrew Goodenough, Cyfarwyddwr Seilwaith Maes Awyr Bryste:

“Mae hwn yn garreg filltir bwysig, gan ein bod gam sylweddol yn nes at agor un o ganolfannau cyfnewid trafnidiaeth gyhoeddus mwyaf y rhanbarth yr haf nesaf; bydd hyn yn cynnig opsiynau teithio mwy cynaliadwy fyth i’r Maes Awyr. Rwy’n falch o ddweud ein bod wedi ailgylchu dros 100,000 tunnell o ddeunydd ar y safle, a’n nod yw sicrhau nad oes angen gwaredu unrhyw ddeunydd oddi ar y safle o gwbl. Mae hefyd yn wych bod myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau ‘T Level’ wedi bod yn rhan o’r prosiect; rydym wedi ymrwymo i gefnogi pobl ifanc, nawr ac yn y dyfodol. Rydym wrth ein bodd bod y prosiect cymhleth hwn – a oedd hefyd yn cynnwys profi’r cloddwr trydan EC230 gan Volvo (sydd heb allyriadau o’r bibell wacáu), mewn cydweithrediad â Chepstow Plant – yn mynd yn ei flaen yn unol â’r amserlen. Mae’r effaith ar weithrediadau wedi’i chadw i’r lleiafswm, diolch i gydlynu agos â Griffiths Farrans JV, partner sydd wedi bod yn rhan o ddatblygiad y Maes Awyr ers amser maith.”

Dywedodd Glenn Gilmore, Cyfarwyddwr Rhanbarthol Griffiths Farrans JV:

“Rydym yn falch o’r cynnydd a wnaed ar y prosiect pwysig hwn ym Maes Awyr Bryste. Mae’r sector hedfan bob amser yn cyflwyno heriau unigryw i brosiectau adeiladu, gan gynnwys integreiddio gwasanaethau adeiladu â seilwaith presennol y maes awyr yn llwyddiannus, logisteg safle cyfyng, a chydlynu’r amrywiol randdeiliaid sy’n rhan o’r prosiect – meysydd y mae gan Griffiths Farrans brofiad helaeth o’u rheoli. Mae cyrraedd y garreg filltir o gwblhau’r strwythur allanol (y ‘topping out’) ar amser ac yn unol â’n rhaglen yn dyst i’r dull cydweithredol a fabwysiadwyd gan ein tîm a’n cleient. Edrychwn ymlaen at fynd i mewn i 2025 gyda’r un momentwm, er mwyn bwrw ymlaen tuag at gwblhau’r gwaith.”

Dywedodd Ian Grimstead, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Griffiths Farrans JV:

“Mae cyrraedd y garreg filltir o gwblhau strwythur yr adeilad yn dyst i ymroddiad a sgil pawb sy’n rhan o’r gwaith. Mae’r cyflawniad hwn yn gam sylweddol ymlaen, gan ddod â ni’n nes at ddarparu darn o seilwaith trawsnewidiol a fydd o fudd mawr i gwsmeriaid y Maes Awyr. Rydym yn hynod falch o’r cynnydd a wnaed, ac yn ddiolchgar am gydweithrediad a chefnogaeth y rhanddeiliaid, trigolion lleol a’n gweithlu.”

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Rebecca Kincade, Pennaeth Cyfathrebu a Marchnata, Farrans Construction.

E: RKincade@farrans.com

Ff: 07919 591 319

 

Tracy Comer, Rheolwr y Cyfryngau, Maes Awyr Bryste

E: pressoffice@bristolairport.com

Ff: 0117 457 5027

 

Nodiadau i Olygyddion

Ynglŷn â Farrans

Mae Farrans Construction yn gontractwr adeiladu a pheirianneg sifil blaenllaw, sydd â dros 80 mlynedd o brofiad o gyflawni prosiectau o safon fyd-eang ledled y DU ac Iwerddon. Mae gan y cwmni, sy’n cyflogi mwy na 650 o bobl, swyddfeydd yn Llundain, Caeredin, Leeds, Monaghan a Belfast, yn ogystal â swyddfeydd safle ychwanegol sy’n cysylltu ei rwydwaith rhanbarthol. Mae Farrans yn gwmni chwaer i Tarmac ac yn rhan o CRH plc, y busnes deunyddiau adeiladu blaenllaw yn y byd.

www.farrans.com

Linked In: Farrans Construction

X: Farrans_UKI

Facebook: Farrans Construction

Tik Tok: @FarransConstruction

Instagram: @farransconstruction

YouTube: @farrans

 

Ynglŷn â CRH

Mae CRH (NYSE: CRH, LSE: CRH) yn brif ddarparwr datrysiadau deunyddiau adeiladu sy’n adeiladu, cysylltu a gwella ein byd. Gyda thua 78,500 o weithwyr mewn tua 3,390 o leoliadau gweithredu ar draws 28 o wledydd, mae CRH yn meddu ar safle arweiniol yn y farchnad yng Ngogledd America ac Ewrop fel ei gilydd. Fel partner hanfodol ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth a chyfleustodau critigol, gwaith adeiladu cymhleth nad yw’n breswyl, a datrysiadau ar gyfer byw yn yr awyr agored, mae cynnig unigryw CRH – sy’n cynnwys deunyddiau, cynhyrchion a gwasanaethau gwerth ychwanegol – yn helpu i greu amgylchedd adeiledig sy’n fwy gwydn a chynaliadwy. Mae’r cwmni’n cael ei ystyried yn un o arweinwyr y sector gan asiantaethau sy’n asesu perfformiad Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG). Mae CRH yn gwmni ar restr y Fortune 500, ac mae ei gyfranddaliadau wedi’u rhestru ar y NYSE a’r LSE.

Am ragor o wybodaeth, ewch i:  www.crh.com

 

Ynglŷn â Maes Awyr Bryste

Maes Awyr Bryste yw trydydd maes awyr rhanbarthol mwyaf Lloegr, gan weithredu fel y porth rhyngwladol i Dde-orllewin Lloegr a De Cymru. Gyda mwy na 10 miliwn o deithwyr yn mynd trwy’r derfynell dros y 12 mis diwethaf, a chysylltiadau â dros 117 o gyrchfannau mewn 34 o wledydd – mwy na holl feysydd awyr eraill y rhanbarth gyda’i gilydd – mae hefyd yn cynnig cysylltiadau â phrif ganolfannau hedfan ar gyfer teithio pellach.

Ar hyn o bryd, mae’r maes awyr yn cael ei uwchraddio ar gost o £400 miliwn. Mae hyn yn cynnwys adeiladu Canolfan Gyfnewid Trafnidiaeth Gyhoeddus a maes parcio gwerth £60 miliwn; pan fydd y gwaith wedi’i gwblhau yn haf 2025, bydd yn un o’r canolfannau cyfnewid bysiau a choetsys mwyaf yn ein rhanbarth.

Mae’r maes awyr yn ganolog i economi’r rhanbarth, gan ddarparu cysylltiadau busnes â phrifddinasoedd a chanolfannau ariannol yn Ewrop, a denu cannoedd o filoedd o ymwelwyr i’r ardal bob blwyddyn. Safle Maes Awyr Bryste yw’r cyflogwr mwyaf yn yr ardal, gyda dros 50 o gwmnïau yn darparu tua 5,000 o swyddi (wedi’u cyfrifo fel swyddi amser llawn cyfatebol). Mae pob un o’r cwmnïau hyn yn talu mwy na’r ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’ (Real Living Wage).

Mae Maes Awyr Bryste wedi ymrwymo i sicrhau bod ei weithrediadau’n cyrraedd ‘sero net’ erbyn 2030. Mae’n gweithio mewn partneriaethau unigryw i leihau allyriadau anuniongyrchol ac i gefnogi datblygiad hedfan di-allyriadau.

 

RHANNU

GYRFAOEDD

Adeiladwch eich dyfodol Gyda Griffiths

Ymunwch â thîm sy’n adeiladu mwy nag isadeiledd – rydym yn adeiladu gyrfaoedd ac yn llunio cymunedau.

GWELD MWY

YNEWYDDION DIWEDDARAF

25

Cefnogi Arbenigedd Lleol ar ein Contract Gwasanaeth Tymor Priffyrdd

Construction (5)

Cyhoeddi Griffiths fel Partner Busnes ‘Future Talent’ Coleg Weston ar gyfer 2025–2026

logo-768x432

Griffiths yn Sicrhau Lle ar Fframwaith Cenedlaethol Newydd Pagabo ar gyfer Peirianneg Sifil, Seilwaith a Gweithiau Galluogi 2026

CESW-Awards-2026-314_With-CESW-Logo-768x512

Canolfan Gyfnewid Trafnidiaeth Gyhoeddus Maes Awyr Bryste yn Derbyn Tair Gwobr Rhagoriaeth mewn Adeiladu

This Website Uses Cookies

We use cookies to personalize content, provide social media features, and analyze our traffic. We also share information about your use of our site with our analytics partners. You can change your preferences at any time. For more information, please see our Privacy Policy and Cookie Policy. Privacy Policy Cookie Policy