NEWYDDION DIWEDDARAF

Tîm Geodechnegol y Flwyddyn y UK

CATEGORI

Uncategorized

AMSFER DARLLEN

3 minutes

RHANNU

Mae ymdrech tîm ragorol gan Griffiths a Network Rail wedi ennill y categori Tîm Geodechnegol y Flwyddyn yn y UK yng Ngwobrau Ground Engineering 2018, a oedd yn nodi’r degfed pen-blwydd.

Cyflwynwyd y wobr gerbron 800 o westeion o’r diwydiannau geodechnegol a pheirianneg y ddaear a oedd wedi ymgynnull yn y London Hilton ar Park Lane; rhoddwyd hi i gydnabod gwaith cydweithredol rhagorol ar Ymgyrch Torri Creigiau Cambrian yng Ngogledd Cymru, lle nodwyd nifer o safleoedd torri creigiau a phridd a oedd yn peri risg sylweddol i ddiogelwch a pherfformiad y rheilffordd weithredol.

Wrth grynhoi’r ymgyrch, dywedodd beirniaid fod timau Griffiths / Network Rail:

Dangosasant yn glir eu bod wedi mynd y tu hwnt i’r hyn oedd yn ofynnol iddynt ei wneud ac wedi llwyddo oherwydd nad oedd rhaid iddynt weithredu felly, ond eu bod wedi dewis gwneud hynny. Mabwysiadasant ddull arloesol o gyflawni nodau cyffredin ac roedd ganddynt werthoedd diwylliannol oedd yn cyd-fynd yn gryf â’i gilydd; dangosasant angerdd amlwg a ddaeth i’r amlwg yn eu cyflwyniad, a manteisiasant ar bob cyfle i fuddsoddi yn nyfodol pobl, dulliau, perthnasoedd ac offer.

Wrth sôn am y dyfarniad, dywedodd Shaun Thompson, Cyfarwyddwr – Rheilffyrdd yn Griffiths:

Rydym wrth ein bodd bod tîm cydweithredol – sy’n cynnwys adran Rheilffyrdd Griffiths, Grŵp Dylunio Adeiladau a Pheirianneg Sifil Network Rail, ac Adran Prosiectau Seilwaith Network Rail yng Nghymru – wedi ennill y wobr allweddol hon yn y digwyddiad blaenllaw yn y UK ar gyfer y diwydiannau geodechnegol. Mae Ymgyrch Torri Creigiau Cambrian yn enghraifft wych o’r hyn y gellir ei gyflawni pan fydd partneriaid yn hollol gytûn yn eu dull gweithredu ac yn rhannu’r un angerdd ac ymrwymiad i brosiect.

Mae’r bartneriaeth wedi profi i fod yn hynod effeithiol wrth ddarparu’r lefelau uchaf o ran ansawdd a gwerth ar brosiectau geodechnegol. Mae’r bartneriaeth wedi elwa ar fodel hunan-gyflawni Griffiths, sy’n galluogi buddsoddi mewn pobl a datblygu gweithlu hynod fedrus sy’n rhannu’r un diwylliant diogelwch. Mae buddsoddi mewn hyfforddiant ac offer wedi gwella diogelwch a chynhyrchiant, yn ogystal â’r gallu i ddarparu gwir werth am arian i gleientiaid.

Roedd cwmnïau eraill a gafodd eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Tîm Geodechnegol y Flwyddyn yn y UK yn cynnwys: Atkins – CH2M JV; Bam Nuttall Mott MacDonald JV; McGee, Arup ac RKD; NNB EDF, Kier BAM, AECOM, Golder Associates; a Soil Engineering ac HS2.

Denodd y cais am wobr ar gyfer Ymgyrch Torri Creigiau Cambrian ddiddordeb cadarnhaol ymhell cyn digwyddiad Gwobrau GE. Gwahoddwyd Jason Shannon (Uwch-reolwr Adeiladu – Rheilffyrdd yn Griffiths) a Jonathan Fullilove (Uwch-reolwr Dylunio Geodechnegol yn Network Rail) i gyflwyno astudiaeth o’r prosiect yng nghynhadledd dechnegol Transport Geotechnics 2018, sy’n cael ei chynnal ym mis Hydref. Bydd y cyflwyniad 30 munud – a draddodir gerbron arweinwyr ac arbenigwyr ym maes geodechneg – yn edrych ar yr heriau technegol penodol a threfniadau contract Ymgyrch Torri Creigiau Cambrian.

Am ragor o fanylion, gweler https://transport.geplus.co.uk/

RHANNU

GYRFAOEDD

Adeiladwch eich dyfodol Gyda Griffiths

Ymunwch â thîm sy’n adeiladu mwy nag isadeiledd – rydym yn adeiladu gyrfaoedd ac yn llunio cymunedau.

GWELD MWY

YNEWYDDION DIWEDDARAF

CECA Wales Awards Dinner 2019Cardiff Hilton12.04.19©Steve PopeFotowales

Prentisiaid a Graddedigion Griffiths yn cael eu cydnabod mewn Gwobrau Diwydiant

Mandy-feature-image-1

Griffiths yn ennill Gwobr Partner Gwerthfawr

Cymru’n Ysgubo’r Bwrdd yng Ngwobrau Cenedlaethol Constructing Excellence

Tîm Geodechnegol y Flwyddyn y UK

This Website Uses Cookies

We use cookies to personalize content, provide social media features, and analyze our traffic. We also share information about your use of our site with our analytics partners. You can change your preferences at any time. For more information, please see our Privacy Policy and Cookie Policy. Privacy Policy Cookie Policy