Cadarnhaodd Cymru unwaith eto ei statws fel canolfan ragoriaeth ym maes adeiladu drwy ennill pump o’r prif wobrau yn y Gwobrau Cenedlaethol ‘Constructing Excellence’ ddydd Gwener, 16 Tachwedd, a gynhaliwyd yng Ngwesty’r Marriott, Grosvenor Square, Llundain.
Profodd y sector adeiladu yng Nghymru ei hun yn elfen hanfodol o economi’r wlad, gan ddangos bod cymhwyso egwyddorion arfer gorau o ran cydweithio a gweithio fel tîm yn galluogi cyflawni prosiectau gwych ar amser ac o fewn y gyllideb, gan ychwanegu gwerth at y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Enillodd Cymru wobrau ar gyfer Prosiect y Flwyddyn (Peirianneg Sifil), Cynaliadwyedd, Datblygu Pobl, y wobr ar gyfer Mentrau Bach a Chanolig (SME), ac Adeiladu Digidol..
Cafodd Prosiect Ynni Gwynt Pen y Cymoedd – sy’n cynnwys 76 o dyrbinau ac yn un o lwyddiannau mawr y diwydiant adeiladu yng Nghymru – ei enwi’n Brosiect y Flwyddyn ym maes Peirianneg Sifil. Mae’n fenter ar y cyd rhwng Jones Brothers Civil Engineering a Balfour Beatty, a dyma’r prosiect ar y tir mwyaf yng Nghymru a Lloegr sy’n anelu at gynhyrchu digon o drydan i bweru 188,000 o gartrefi. Hefyd, llwyddodd y sector peirianneg sifil i arwain y ffordd drwy ennill y wobr am Ddatblygu Pobl. Enillodd Alun Griffiths (Contractors) Ltd gyda’i Academi Sgiliau Griffiths, a sefydlwyd i ddenu pobl ifanc 16-24 oed i’r proffesiwn.
Cysylltwyd Wynne Construction â dau wobr. Enillasant wobr Menter Fach neu Ganolig (SME) y Flwyddyn a chwarae rhan wrth ennill y wobr Cynaliadwyedd am waith yn Ysgol Rhyd y Llan. Roedd y prosiect hwn – a gyflawnwyd gan Wynne a Modcell ar gyfer Cyngor Sir Ynys Môn i ddisodli tair ysgol – yn un ‘Ysgolion yr 21ain Ganrif’ a leolwyd mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol; cymhlethwyd y gwaith ymhellach gan y darganfyddiad o fadfallod dŵr prin ac olion tai Neolithig yn dyddio o 6,000 o flynyddoedd yn ôl.
Roedd y bumed wobr a enillwyd gan sefydliadau o Gymru hefyd yn y gogledd, sef M-Sparc – Parc Gwyddoniaeth pwrpasol cyntaf Cymru, sy’n cynnig gofod swyddfa, gweithdy a labordy ar gyfer hyd at 700 o bobl. Roedd y cynllun, a arweiniwyd gan Willmott Dixon, Futurium a Faulkner Brown, wedi ymgorffori technegau ac syniadau adeiladu digidol wrth ei wraidd; galluogodd hyn iddo ddod yn ganolfan ranbarthol bwysig, gan ddenu busnesau newydd a buddsoddiad mewnol gan gwmnïau corfforaethol mawr.
Disgleiriodd pob un o’r pum enillydd o Gymru ar noson lle gwnaeth y diwydiant adeiladu yn y DU achos cryf nad yw tendro ar sail y pris isaf a dulliau gweithio gwrthdaro yn ffordd briodol o adeiladu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Milica Kitson, CEW Chief Executive meddai:
Roedd hon yn noson ragorol i’r diwydiant adeiladu yng Nghymru, gan gadarnhau’r hyn rydym wedi’i ddadlau’n aml: bod Cymru wir yn arwain drwy esiampl a bod yr egwyddorion arfer gorau a hyrwyddwyd gan Latham ac Egan yn wir yn arwain at ganlyniadau gwych i bawb sy’n rhan ohonynt. Mae llwyddiant ein pump enillydd yn cadarnhau ein bod yn gwneud pethau’n iawn yng Nghymru ac yn gosod esiampl i bawb sy’n mabwysiadu arferion gweithio cydweithredol. Llongyfarchiadau i bawb dan sylw.
I gael rhagor o fanylion am yr holl enillwyr gwobrau, ewch i: http://constructingexcellence.org.uk/winners-of-the-2018-constructing-excellence-national-awards-revealed/
Ac am wybodaeth benodol am enillwyr Gwobrau CEW, ewch i: http://www.cewales.org.uk/cew-awards/cew-awards-shortlist/
