Ym mis Hydref 2021, cyflogwyd Griffith’s gan Cormac Solutions Ltd. (CSL) – rhan o Grŵp cwmnïau Corserv sy’n eiddo i Gyngor Cernyw ac yn cael ei redeg ganddo – fel contractwr arbenigol i wneud gwaith sefydlogi creigiau yn Harbwr Charlestown.
Mae Llwybr Arfordirol y De-orllewin (SWCP) yn mynd trwy Charlestown ac allan tuag at Par i’r dwyrain, lle mae’r llwybr yn rhedeg ar hyd copa’r clogwyni môr. Roedd methiant y wal fôr ac erydiad arfordirol dilynol yn ystod stormydd wedi tanseilio’r SWCP, gan arwain at gulhau’r llwybr dros dro. Roedd Cyngor Cernyw yn pryderu y byddai erydiad pellach yn arwain at golli’r llwybr yn llwyr ac yn creu risg i’r adeiladau preswyl ar y copa. Comisiynodd CSL gynllun a oedd yn gofyn am osod 15 o hoelion pridd i sefydlogi rhan uchaf y clogwyn a 53 o binnau craig i ddal yr wyneb concrit chwistrelledig wedi’i atgyfnerthu. Gosodwyd tyllau draenio yn unol â gofynion y dylunydd.
Er mwyn cwblhau’r gwaith ar wyneb y graig, roedd angen mynediad i’r traeth. Ystyriwyd ei bod yn anymarferol defnyddio bargen (cwch fflat) i gludo cloddwr, rig drilio, llwyfan gweithio symudol (MEWP) a’r holl ddeunyddiau, oherwydd y pellter teithio dan sylw. Byddai bargen hefyd yn cyfyngu ar y gallu i glirio’r traeth yn ddiogel rhag ofn y byddai storm. Felly, dewisodd Griffith’s ddefnyddio gwasanaeth codi contract (contract lift) i symud peiriannau a deunyddiau ar y traeth ac oddi arno ar yr adeg briodol yn y broses adeiladu.
Mae Harbwr Charlestown yn rhan o safle Treftadaeth y Byd UNESCO ‘Tirwedd Mwyngloddio Cernyw a Gorllewin Dyfnaint’; mae’r Harbwr yn strwythur rhestredig, ffaith y bu’n rhaid ei hystyried wrth ddatblygu Gweithiau Dros Dro ar gyfer defnyddio’r craen.
Caewyd y ffordd dros dro gyda chytundeb yr Harbwr a’r trigolion, a defnyddiwyd craen 100 tunnell i godi peiriannau, offer a deunyddiau ar y traeth. Crëwyd llwyfan gwaith dros dro ar gyfer y cloddwr ‘Long Reach’ 9 tunnell gan ddefnyddio bagiau mawr a deunydd a gafwyd yn lleol ar y safle i ffurfio amddiffynfa môr dros dro uwchben lefel Cymedr y Llanw Uchel (MHWS).
Gosodwyd hoelion pridd, pinnau craig a thyllau draenio ar hyd wyneb y llethr yn unol â gofynion y dylunydd. Gosodwyd haen ddwbl o rwyd atgyfnerthu dur di-staen A393; cafodd ei sicrhau i wyneb y llethr a’i siapio’n effeithiol i leihau adlam y concrit. Llwyddodd Griffith’s i ymateb i nifer o newidiadau dylunio oherwydd amodau a ddaeth i’r amlwg, ac i hwyluso dyluniad mwy effeithiol.
Yn rhan o ofynion y dylunydd, dyblodd maint yr ardal i’w sefydlogi yn ystod y broses o osod y marciau ar y safle, gan olygu bod angen gosod hoelion a rhwyd ychwanegol. Bu Griffith’s yn cydweithio â’n cyflenwyr i gyflymu’r broses o ddanfon deunyddiau er mwyn sicrhau cyn lleied â phosibl o effaith ar yr amserlen adeiladu.
Gallodd Griffith’s awgrymu dewisiadau amgen addas yn lle deunyddiau eraill, gan alluogi’r wyneb concrit chwistrellu i fodloni gofynion y dylunydd tra’n defnyddio deunyddiau oedd ar gael yn lleol. Diogelodd hyn y Prif Gontractwr a’r Cleient rhag costau ychwanegol cludo deunyddiau i mewn i’r safle.
Wrth weithio mewn amgylchedd arfordirol, roedd yn bwysig rheoli’r gwaith i sicrhau nad oedd unrhyw effaith niweidiol ar yr amgylchedd lleol. Cynlluniwyd a chyflawnwyd y gwaith mewn ffordd a sicrhaodd ei fod yn parhau uwchben lefel Cymedr y Llanw Uchel (MHWS) drwy’r amser.
Cwblhawyd y gwaith yn Charlestown i foddhad Cyngor Cernyw, Harbwr Charlestown a’r trigolion lleol, er gwaethaf nifer o heriau dylunio ac adeiladu a gododd oherwydd amodau newidiol ar y safle.